OverviewLleoliad y Swydd:
Cardiff, O Bell/Hybrid
Oriau Gweithio Wythnosol:
37
Math o Gontract:
Contract Cyfnod Penodol
Bydd y Rheolwr Partneriaethau yn cefnogi ac yn datblygu amrywiaeth o fentrau i wella gwaith ymgysylltu allanol Y Brifysgol Agored yng Nghymru. Byddwch yn ymgysylltu ag ysgolion, colegau, cyflogwyr, partneriaethau rhanbarthol, sefydliadau cynrychioladol, darparwyr addysg eraill, y Llywodraeth, partneriaid cymunedol, a sefydliadau yn y sector cyhoeddus, sector preifat a''r trydydd sector ar draws y dirwedd ddysgu ac sy''n seiliedig ar sgiliau yng Nghymru. Byddwch yn chwarae rol weithredol allweddol, gan gyfrannu at enw da Y Brifysgol Agored fel prif ddarparwr dysgu o bell hyblyg o ansawdd uchel.
Bydd gofyn i chi arwain a chymryd cyfrifoldeb dros bortffolio o waith penodol gyda''r sector ysgolion ledled Cymru. Bydd yn ofynnol i chi hefyd oruchwylio tasgau swyddogion prosiect/staff cymorth/cynorthwywyr (fel sy''n ofynnol), gan sicrhau caiff y prosiectau eu monitro yn unol â blaenoriaethau''r tîm a manylebau cyllidwyr ac y caiff gwybodaeth adrodd ei chyflwyno''n gywir ac yn amserol.
Bydd disgwyl i chi ddefnyddio eich sgiliau a''ch arbenigedd i ddatblygu a chyd-ddylunio mentrau gydag amrywiaeth o bartneriaid allanol a mewnol presennol a newydd, gan asesu sgiliau ac anghenion dysgu''r dyfodol, a datblygu ymchwil, arloesedd, cyfnewid gwybodaeth a chyfleoedd cenhadaeth ddinesig i gynyddu cyrhaeddiad cynnig Y Brifysgol Agored yng Nghymru.
Fel aelod o''r tîm Marchnata, Cyfathrebu a Phartneriaethau, bydd yn ofynnol i chi gefnogi portffolio o waith sy''n cynnwys:
Gweithio gydag ysgolion a cholegau addysg bellach i ddatblygu llwybrau dysgu a chyfleoedd i fyfyrwyr gyflawni astudiaethau Y Brifysgol Agored mewn lleoliadau cyfarwydd.
Gweithio gyda staff academaidd i wella cyfleoedd ymchwil, ysgoloriaeth ac arloesedd i sicrhau effeithiau cymdeithasol neu fasnacheiddio.
Bydd hefyd angen i chi gefnogi cydweithwyr ar draws portffolios o waith o fewn y tîm Partneriaethau sy''n cynnwys:
Gweithio ochr yn ochr â sefydliadau cymunedol a''r trydydd sector, cymdeithasau tai a chymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrhol o ddiddordeb i ehangu mynediad at addysg uwch ac i gydweithio wrth ddylunio datrysiadau dysgu.
Datblygu ein partneriaethau â chyflogwyr ac undebau llafur, gan gynnwys dulliau arloesol o fynd i''r afael ag anghenion meithrin sgiliau a datblygu''r gweithlu.
Bydd disgwyl i chi dorri tir newydd a bod yn greadigol, a defnyddio cwricwlwm helaeth a dulliau unigryw Y Brifysgol Agored i ddiwallu anghenion dysgwyr a sefydliadau.
Cyfrifoldebau Allweddol
Helpu i gynllunio gweithgarwch ymgysylltu allanol Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn strategol a''i roi ar waith, gan chwarae rôl ganolog wrth ddyfnhau a datblygu ein gwaith gyda phartneriaid allanol yn unol â strategaeth Y Brifysgol Agored.
Sefydlu, datblygu a chynnal cydberthnasau cadarnhaol â phartneriaid allanol a mewnol i hwyluso cyfleoedd priodol, arloesol ac effeithiol.
Cymryd cyfrifoldeb dros bortffolio o gydberthnasau a rhaglenni penodol â phartneriaid, a chynnal prosesau priodol gan gynnwys cadw cofnodion, cyflwyno adroddiadau a gwaith rheoli prosiect cyffredinol.
Cyfrannu at gyfleoedd cynhyrchu incwm a''u datblygu.
Cyfrannu at gyflawni targedau a chanlyniadau sy''n gysylltiedig â chynllun busnes Y Brifysgol Agored yng Nghymru, ac ymrwymiadau mewnol ac allanol eraill.
Cyfrannu at weithgarwch gwerthuso, casglu a dadansoddi data, llunio adroddiadau a gweithgarwch lledaenu arall.
Nodi cyfleoedd i hyrwyddo, cyhoeddi a rhannu eich llwyddiannau, gan weithio''n agos gyda''r tîm Marchnata, Cyfathrebu a Phartneriaethau.
Cyfrannu at y trosolwg o gyllidebau yn eich maes gwaith, gan gynnwys darogan, monitro a sicrhau''r gwerth gorau.
Gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr i nodi cyfleoedd cyllido priodol a chyfrannu at gynigion i ddatblygu gweithgareddau ac allbynnau yn eich portffolio.
Dadansoddi data perthnasol ac ysgrifennu a llunio adroddiadau ar gyfer cynulleidfaoedd mewnol ac allanol, gan gynnwys unrhyw ffurflenni statudol neu adroddiadau monitro ar gyfer cyrff cyllido.
Cyfrannu at grwpiau a phwyllgorau mewnol ac allanol fel y bo''n briodol.
Goruchwylio gwaith swyddogion prosiect/staff cymorth/cynorthwywyr fel sy''n ofynnol.
Efallai y bydd yn ofynnol i ddeiliad y rôl gyflawni dyletswyddau rhesymol eraill fel sy''n ofynnol o fewn natur dyletswyddau a chyfrifoldebau''r rôl, ar yr amod y caiff unrhyw newidiadau parhaol i natur y swydd fel arfer eu hymgorffori yn y Disgrifiad Swydd mewn termau penodol.
Disgwylir i bob aelod o''r staff wneud y canlynol:
Cydymffurfio â pholisïau Iechyd a Diogelwch a Chyfle Cyfartal y Brifysgol wrth gyflawni eich dyletswyddau.
Cymryd gofal rhesymol o ran eich Iechyd a''ch Diogelwch eich hun ac Iechyd a Diogelwch unrhyw berson arall y gallai''ch gweithrediad neu''ch anweithredoedd yn y gwaith effeithio arno.
Cydweithredu â''r Brifysgol Agored i sicrhau, cyn belled ag y bo angen, y cydymffurfir â Gofynion Statudol, Codau Ymarfer, Polisïau''r Brifysgol a threfniadau Iechyd a Diogelwch Adrannol.
Dangos ymrwymiad cadarn i egwyddorion ac arfer cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Sgiliau a Phrofiad
Gradd neu brofiad perthnasol cyfatebol.
Profiad o weithio yn y sector ysgolion yng Nghymru neu gyda''r sector
Profiad o feithrin cydberthnasau cynaliadwy a phwrpasol ar gyfer sefydliad ag amrywiaeth o randdeiliaid a phartneriaid.
Hanes o reoli sawl prosiect neu lif gwaith yn llwyddiannus ynghyd ag enghreifftiau o waith a gychwynnwyd gennych sydd wedi gwneud gwahaniaeth/wedi cael effaith.
Profiad o gynllunio a blaenoriaethu llwyth gwaith er mwyn cyflawni sawl amcan.
Profiad o roi prosiectau ar waith a''u gwerthuso, gan gynnwys lledaenu dysgu i grwpiau eraill â diddordeb.
Dealltwriaeth o''r ysgogwyr polisi cyfredol a''r dulliau darparu sy''n gysylltiedig ag addysg drydyddol yng Nghymru.
Galluoedd trefnu ardderchog, yn benodol mewn perthynas â phortffolio gwaith amrywiol a heriol.
Y gallu i weithio''n annibynnol i wneud penderfyniadau ystyrlon ac i weithio fel rhan o dîm sy''n canolbwyntio ar ganlyniadau.
Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu sydd wedi''u datblygu''n dda, gan gynnwys sgiliau cyflwyno ardderchog gyda phrofiad o ysgrifennu ar gyfer cynulleidfaoedd mewnol ac allanol a threfnu digwyddiadau, ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Ffordd o feddwl sy''n canolbwyntio ar dwf, lle rydych yn wydn ac yn gallu addasu i newidiadau.
Ymrwymiad i ddelfrydau Y Brifysgol Agored, sy''n cynnwys materion cyfle cyfartal ac amrywiaeth.
Trwydded yrru lawn a mynediad at gerbyd.
Gradd uwch mewn pwnc perthnasol.
Profiad o ddatblygu ceisiadau neu gynigion gan ffynonellau a ariennir yn allanol.
Gwybodaeth a phrofiad o gefnogi cyfranogiad sy''n ehangu yng nghyd-destun addysg uwch, a phrofiad o ddysgu sy''n seiliedig ar waith a gweithgarwch meithrin sgiliau.
Dealltwriaeth o anghenion dysgwyr rhan-amser sy''n oedolion a''r heriau sy''n wynebu myfyrwyr mewn cyd-destun dysgu o bell.
Y gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Efallai y bydd yn ofynnol i chi gyflawni dyletswyddau rhesymol eraill fel sy''n ofynnol o fewn natur dyletswyddau a chyfrifoldebau''r rôl, ar yr amod y caiff unrhyw newidiadau parhaol i natur y swydd fel arfer eu hymgorffori yn y Disgrifiad Swydd mewn termau penodol.
Ystyrir secondiadau ar gyfer y cyfle hwn.
Mae gweithio gartref gydag ymweliadau cyson â Chaerdydd yn bosibl. Fel rhan o''r rôl hon, bydd angen ymgysylltu â phartneriaid ledled Cymru a theithio i ymgysylltu â phartneriaid/rhanddeiliaid y prosiect yn ôl yr angen, ynghyd â theithio i Milton Keynes ac i leoliadau eraill Y Brifysgol Agored o bryd i''w gilydd. Bydd trwydded yrru lawn a mynediad at gerbyd yn hanfodol.
Sut i wneud cais:
I wneud cais am y rôl hon, dylech gyflwyno''r canlynol fel dogfennau ar wahân:
Datganiad ategol hyd at 1,000 o eiriau. Yn eich datganiad, dylech egluro pam y mae gennych ddiddordeb yn y rôl, gan nodi enghreifftiau lle mae eich sgiliau a''ch profiadau yn cyfateb i gymwyseddau gofynnol y rôl hon fel y''u nodir yn y disgrifiad swydd.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Noder:
Efallai y byddwn yn cau''r hysbyseb swydd hon yn gynharach na''r dyddiad cau a gyhoeddwyd os bydd nifer y ceisiadau a dderbyniwyd yn foddhaol. Felly, rydym yn annog ceisiadau cynnar.
Mae''r Brifysgol Agored wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a adlewyrchir yn ein cenhadaeth i fod yn agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau. Ein nod yw meithrin amgylchedd amrywiol a chynhwysol fel y gall pawb yng nghymuned y Brifysgol Agored gyrraedd eu potensial. Rydym yn cydnodi bod gwahanol bobl yn cynnig gwahanol safbwyntiau, syniadau, gwybodaeth, a diwylliant, a bod y gwahaniaeth hwn yn cynnig cryfder mawr. Rydym yn ymdrechu i recriwtio, cadw a datblygu gyrfaoedd cronfa amrywiol o fyfyrwyr a staff, ac yn arbennig yn annog ceisiadau gan bob grwp heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym hefyd yn anelu at wneud y Brifysgol Agored yn weithle cefnogol i bawb trwy ein polisïau, gwasanaethau a rhwydweithiau ..... full job details .....