Cynorthwyydd Gweithrediadau Operations Assistant
Oriau: 28awr yr wythnos (0.8 Cyfwerth â Llawn Amser) Cyfnod penodol: Blwyddyn o''r penodiad Gradd B: £25,178 - £27,241 (pro-rata) Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais: hanner nos ddydd Sul 23 Awst Dyma gyfle cyffrous i chwarae rhan hollbwysig o ran gyrru Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn ei blaen: sicrhau ein bod yn gweithredu hyd gorau ein gallu - fel sefydliad effeithiol a phroffesiynol sy''n cael ei reoli''n dda - fel y gallwn gyflawni ein strategaeth uchelgeisiol er budd Cymru. Bydd ein Cynorthwyydd Gweithrediadau yn darparu cymorth amhrisiadwy i''r tîm Gweithrediadau, Cyllid a Llywodraethu i sicrhau bod ein sefydliad yn cael ei redeg yn ddidrafferth. Byddai''r swydd hon yn addas ar gyfer unigolyn rhagweithiol, trefnus sy''n rhoi sylw i fanylion ac a fyddai''n mwynhau swydd amrywiol yn cefnogi tîm deinamig, a bod yn rhan ohono. Ar gyfer rôl lefel Cynorthwyydd, nid ydym yn disgwyl i chi fod â phrofiad sylweddol o waith blaenorol, ond rydym yn chwilio am rywun sy''n gallu ysgogi ei hun, sydd ag awydd i ddysgu, ac mae agwedd ragweithiol wrth gynorthwyo pobl eraill a dod o hyd i ddatrysiadau yn hanfodol. Mae CDdC yn cefnogi unigolion sydd wrthi''n dysgu Cymraeg. Nid yw bod yn rhugl yn y Gymraeg yn ofynnol ar gyfer y swydd hon, ond mae''r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol, a''r parodrwydd i ddysgu yn hanfodol. Hours: 0.8FTE (28hrs per week) Fixed term: 1 year from appointment Salary: Grade B: £25,178 - £27,241 (pro-rata) Application deadline: midnight on Sunday 23 August ..... full job details .....
Perform a fresh search...
-
Create your ideal job search criteria by
completing our quick and simple form and
receive daily job alerts tailored to you!