Cynorthwyydd Gweinyddol Administrative Assistant
Oriau: Rhan amser: 15awr yr wythnos dros gyfnod o 4 i 5 o ddiwrnodau Cyfnod penodol: Blwyddyn o''r dyddiad penodi Gradd B: £25,178 - £27,241 (pro-rata) Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais: hanner nos ddydd Sul 23 Awst Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Gweinyddol brwdfrydig ac effeithlon i ymuno â''n sefydliad croesawgar sy''n prysur dyfu. Dyma gyfle cyffrous i gefnogi''r gwaith o gyflwyno ystod eang o weithgareddau ar draws sefyllfa academaidd, gyhoeddus a gwleidyddol Cymru. Mae''r swydd hefyd yn cynnwys cefnogi cyfarfodydd, gwaith cyfathrebu, a meysydd eraill yn CDdC wrth iddynt ddatblygu. O''r herwydd, mae''n cynnig profiad cyflawn, gwerth chweil, naill ai i weithiwr gweinyddol profiadol neu i rywun sydd awydd datblygu ei yrfa. Mae hon yn swydd hyblyg, ran amser am gyfnod penodol o flwyddyn i ddechrau a bydd yn rhoi cymorth hanfodol i''n tîm bach a chyfeillgar i''n galluogi i gyflawni ein strategaeth pum mlynedd uchelgeisiol er budd Cymru. Rydym yn chwilio am rywun hyblyg, cefnogol a threfnus. Ar gyfer rôl lefel Cynorthwyydd, nid ydym yn disgwyl i chi fod â phrofiad sylweddol o waith blaenorol, ond rydym yn chwilio am rywun sy''n gallu ysgogi ei hun, sydd ag awydd i ddysgu, ac mae agwedd ragweithiol wrth gynorthwyo pobl eraill a dod o hyd i ddatrysiadau yn hanfodol. Mae CDdC yn sefydliad dwyieithog sy''n cefnogi''r rhai sy''n siarad Cymraeg yn rheolaidd, yn ogystal â phobl sy''n dysgu''r Gymraeg ar hyn o bryd, waeth pa lefel. Nid yw bod yn rhugl yn y Gymraeg yn ofynnol ar ..... full job details .....
Perform a fresh search...
-
Create your ideal job search criteria by
completing our quick and simple form and
receive daily job alerts tailored to you!