img
Permanent

Cynorthwydd Adfer Mawndir/ Peatland Restoration Assistant

Betws-y-coed
money-bag 10000-500000 Annual
Posted 2 days ago

Mae''r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol yn y swydd hon Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â''n rhaglen adfer mawndir yn Eryri a chwarae rhan wrth gyflawni sawl prosiect mawr. Fel aelod o''n tîm prysur a deinamig, byddwch yn cynorthwyo gydag arolygu mawndiroedd sydd wedi''u difrodi, paratoi cynlluniau a mapiau adfer, monitro gwaith adfer, a chefnogi tasgau cyfathrebu, addysgu a gweinyddu. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych os ydych chi''n mwynhau bod yn yr awyr agored ym mhob tywydd ac os oes gennych chi brofiad gwaith wrth ddesg. Byddwch chi''n hyderus mewn TG a dylech chi allu cyfathrebu â brwdfrydedd, doethineb a diplomyddiaeth, yn ysgrifenedig ac ar lafar. Mae gennym ni amrywiaeth o brosiectau a ffrydiau gwaith ar y gweill ar yr un pryd felly mae prydlondeb, dull synnwyr cyffredin o ddatrys problemau a''r gallu i ymateb i amgylchiadau sy''n newid ar fyr rybudd yn hanfodol ar gyfer llwyddiant yn y rôl hon. Gan weithio gyda''n tenantiaid ffermio a phorwyr, cydweithwyr a phartneriaid, yn ogystal â''r cymunedau lleol, byddwch yn cynrychioli''r Ymddiriedolaeth a chyflawni ein nodau strategol - Pobl a Natur yn ffynnu. Mae hwn yn gontract penodol tan ddiwedd mis Chwefror 2028. Yn fewnol, byddwch yn cael eich adnabod fel Partner Cynorthwyol Defnydd Tir a Chyflenwi Natur. This is an exciting opportunity to join our peatland restoration programme in Eryri and play a role in delivering several large projects. As a member of our busy and dynamic team, you''ll assist ..... full job details .....

Perform a fresh search...

  • Create your ideal job search criteria by
    completing our quick and simple form and
    receive daily job alerts tailored to you!

Jobs. Straight to your inbox!