Assistant Director of Strategic Communications, Engagement and Policy
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyfathrebu Strategol, Ymgysylltu a Pholisi Caerdydd a Chyffordd Llandudno, Cymru (gyda gweithio hybrid) Cymraeg Hanfodol Mae Gofal Cymdeithasol Cymru''n chwilio am unigolyn talentog i arwain ar ein cyfathrebu, ymgysylltu â rhanddeiliaid, safonau gwasanaeth cwsmeriaid a mewnwelediadau. Bydd y rôl hon yn gweithio ar lefel genedlaethol, gan helpu i lunio dyfodol gofal cymdeithasol yng Nghymru. Amdanom ni Mae Gofal Cymdeithasol Cymru''n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a''r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a''u teuluoedd a''u gofalwyr. I wneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio''r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, data ac ymchwil i wella gofal. Rydym nawr yn chwilio am Gyfarwyddwr Cynorthwyol Cyfathrebu Strategol, Ymgysylltu a Pholisi i ymuno â ni''n barhaol. Cynigir y rôl hon gydag opsiynau gweithio hyblyg, a byddwn yn ystyried ymgeiswyr fel rhan o rannu swydd. Y Manteision - Cyflog o £68,156 - £76,547 y flwyddyn - 28 diwrnod o wyliau ynghyd â gwyliau banc (pro rata) - Cynllun pensiwn llywodraeth leol - Polisi gwaith hyblyg - Gweithio hybrid o gartref a''n swyddfa yn ôl yr angen - Polisi absenoldeb teuluol Y Rôl Fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyfathrebu Strategol, Ymgysylltu a Pholisi, byddwch yn arwain ein dulliau strategol o gyfathrebu allanol, ymgysylltu â rhanddeiliaid, rheoli perthynas â chwsmeriaid ..... full job details .....